English

Cam wrth gam i gofrestru

Cliciwch ar y botwm Cofrestru Plentyn naill ai ar frig y bar llywio, neu ar droedyn y dudalen. Bydd hwn yn eich arwain i’r ffuflen gofrestru

Rhowch eich manylion CHI ac NID manylion eich plentyn, gan mai eich cofrestru chi fel defnyddiwr ar y wefan yw’r broses hon.

Unwaith i chi lwyddo i lenwi’r ffuflen gofrestru, byddwch yn derbyn ebost gyda linc er mwyn cadarnhau’r ebost dych wedi ei gyflwyno inni. Dyn ni’n gwneud hyn i sicrhau ein bod yn 100% sicr bod yr holl ebyst sy’n cael eu rhoi inni yn ebyst dilys.

Cliciwch ar y linc yn yr ebost, a bydd eich cyfrif defnyddiwr yn fyw, a gallwch fewngofnodi i'r wefan.

Wedi i chi fewngofnodi, bydd angen i chi glicio ar Cofrestru Plentyn o’r fwydlen a llenwi’r ffurflen isod. Sicrhewch eich bod yn ticio’r blwch termau ac amodau, neu NI fydd y botwm ‘Cofrestru’ yn weithredol ac ni fydd hi’n bosib i gyflwyno eich ffurflen.

Os ydych chi wedi cwblhau pob rhan, arhoswch rhai eiliadau a bydd y dudalen yn eich hysbysu eich bod wedi cofrestu eich plentyn yn llwyddiannus. Byddwch yn derbyn ebost gyda chopi PDF o’r cofrestriad a bydd Clwb Carco hefyd yn derbyn ebost yn eu hysbysu o’r cofrestriad.

If you have filled everything in, then wait a few seconds, and the page will notify you that you've succesfully registered your child. You will receive an email with a PDF copy of the registration, and Clwb Carco will also receive an email notifying them of the registration.