Amdanom Ni
Sefydlwyd Clwb Carco yn Hydref 2003 er mwyn darparu datrysiadau gofal plant cyfoes drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer rhieni prysur. Daeth Clwb Carco i berchen ar eu clwb wedi ysgol yn Ysgol y Wern, Llanisien, Caerdydd ym mis Mai 2004 ac ers hynny maent wedi agor clybiau ar draws Caerdydd a’r Fro – yn Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Y Berllan Deg, Ysgol Pwll Coch, Ysgol Llantrisant ac Ysgol Pen Y Garth. Dyn ni’n ceisio cynnig y gofal plant mwyaf hyblyg a chystadleuol o ran pris yn yr ardal. Ein nod yw i ddarparu amgylchedd cyfeillgar a bywiog i’r plant, drwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau’n llawn hwyl. Y flaenoriaeth uchaf yw diogelwch a chysur y plant.
Os hoffech ddysgu mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni neu alw yn un o’n clybiau i drafod y trefniant gorau i chi a’ch plentyn.